Gwella’r dyfodol sydd wrth wraidd popeth a wnawn.
Yn Calon Cymru Fostering, credwn fod pob plentyn yn bwysig a bod anghenion, lles a buddiannau pennaf plant a phobl ifanc o’r pwys mwyaf.
Mae bywyd gwych yn dechrau gyda chartref sefydlog, felly rydyn ni'n ymdrechu i wneud i bob plentyn deimlo bod rhywun yn ei garu a’i fod yn cael gofal. Byddech chi'n berffaith ar gyfer gofal maeth os oes gennych chi le yn eich calon a lle yn eich cartref.
Mae Calon Cymru yn asiantaeth faethu arbenigol gyda dros 25 mlynedd o brofiad. Mae ein tîm cynnes, cyfeillgar, medrus yn cynnal asesiadau ac yn cefnogi gofalwyr maeth ar draws De Ddwyrain a Gorllewin Cymru.
Wedi'i sefydlu yn 1996, mae Calon Cymru, a oedd gynt yn Pathway Care Fostering, yn un o asiantaethau maethu annibynnol blaenllaw De a Gorllewin Cymru o ran nifer y plant a phobl ifanc rydym yn gofalu amdanynt, ansawdd y gofal rydym yn ei ddarparu, a'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i'n gofalwyr maeth. Mae ein gofalwyr maeth wedi'u lleoli mewn sawl awdurdod lleol ledled De Cymru a Gorllewin Cymru.
Mae gennym berthynas hirsefydlog ragorol gyda’r awdurdodau lleol sy’n bartneriaid i ni ac enw da profedig am ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ofal maeth i blant. Mae gennym bresenoldeb cynyddol yn Ne a Gorllewin Cymru, gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin.
Dywedir wrthym yn aml fod ein gofalwyr yn ein dewis ni ac yn aros gyda ni oherwydd eu bod yn teimlo eu bod yn cyfrannu at redeg ein hasiantaeth, ac rydyn ni bob amser yn sicrhau bod ganddynt lais. Yn ogystal, mae ein timau lleol o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymorth yn sicrhau ein bod bob amser yno i bob un o'n gofalwyr.
Mae ein cefnogaeth yn golygu y gall ein gofalwyr maeth ganolbwyntio ar y peth pwysig - darparu gofal maeth gwych i blant a phobl ifanc lleol sy'n derbyn gofal.
Mae ein tîm lleol, hirsefydlog, wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi sefydlog a meithringar i blant a phobl ifanc. Rydyn ni’n darparu hyfforddiant arbenigol a chymorth 24/7 i’n tîm eithriadol o ofalwyr maeth a’u teuluoedd i helpu i annog perthnasoedd cadarnhaol ar gyfer plant a phobl ifanc yn ein gofal sy’n agored i niwed.
Mae lles plant yn amlwg yn ganolog i ethos ac ymarfer yr asiantaeth. Mae plant yn cymryd rhan mewn penderfyniadau am eu gofal a'u cefnogaeth, maen nhw'n gallu datblygu perthynas gadarnhaol gyda'u gofalwyr maeth a phobl eraill sy'n bwysig iddyn nhw ac maen nhw’n cael cymorth i gyflawni eu potensial a chyflawni canlyniadau cadarnhaol. Mae plant yn byw gyda gofalwyr maeth sydd wedi'u recriwtio'n ddiogel, ac sy'n cael eu goruchwylio, eu cefnogi a'u hyfforddi'n addas er mwyn darparu cartrefi diogel a sefydlog i'r plant y maent yn gofalu amdanynt.
Gallwch ddysgu mwy amdanom ni a'r hyn a wnawn trwy ddarllen ein Datganiad o Ddiben.
Rydw i wedi bod gyda'r asiantaeth ers 1999. Dechreuais fel gweithiwr cymdeithasol goruchwylio a chefais y pleser o asesu a chefnogi gofalwyr maeth. Rwy'n defnyddio'r profiad hwnnw yn fy rôl bresennol, gan gofio'r gwaith anhygoel y mae gofalwyr maeth yn ei wneud bob amser, ond yn fwy na hynny, y gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud ym mywydau plant a phobl ifanc.
Rwyf bob amser yn gwerthfawrogi eu gwaith gan nad yw bob amser yn hawdd, ond gwn fod y pethau positif yn drech na'r pethau negatif. Rwyf wedi gweithio i'r asiantaeth ers blynyddoedd lawer ac, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, cefais y fraint o arwain yr asiantaeth.
Mae pobl wastad yn gofyn i fi beth sy'n gwneud i fi fod eisiau aros. Mae'n ateb hawdd...
Y gofalwyr maeth a'r staff rwy'n gweithio gyda nhw. Maen nhw fel teulu estynedig. Yn bwysicach fyth, gweld y gwahaniaeth rydyn ni'n gwneud ym mywydau plant a phobl ifanc sydd angen cyfle i gyrraedd eu llawn botensial
Cysylltwch heddiw am sgwrs anffurfiol, gyfeillgar gyda'n cynghorwyr maeth profiadol.
Cysylltu â ni