Gallech chi ddarparu gofal tymor byr ar gyfer plentyn sy’n agored i niwed, neu berson ifanc sydd angen amgylchedd diogel nes bod modd dod o hyd i gartref mwy parhaol. Gall y math hwn o faethu amrywio o ran hyd, o un noson i ychydig wythnosau neu fisoedd.

Gofal maeth tymor byr yw lle byddwch yn cynnig amgylchedd diogel i blentyn neu berson ifanc bregus aros ynddo nes bod modd dod o hyd i leoliad mwy parhaol, neu hyd allant ddychwelyd i'w teulu. Gall y math hwn o leoliad amrywio o un noson i ychydig wythnosau neu hyd yn oed fisoedd, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Bydd Calon Cymru yn eich cefnogi drwy gydol eich lleoliad ac yn neilltuo Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio i chi. Bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio ar y plentyn tra ei fod dan eich gofal.
Gall lleoliadau tymor byr hefyd ddod yn rhai hirdymor os penderfynir ei bod hi'n well i bawb.
Mae penderfynu ar y maethu sy'n addas i chi yn benderfyniad anodd. Er enghraifft, efallai byddwch yn addas ar gyfer lleoliad lle rydych chi'n gofalu am blentyn neu berson ifanc yn fwy parhaol yn hytrach nac mewn gofal maeth tymor byr.
Cysylltwch heddiw am sgwrs anffurfiol, gyfeillgar gyda'n cynghorwyr maeth profiadol.
Cysylltu â ni